SL(6)310 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 5) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 ("Rheoliadau 2009") yn llywodraethu ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr gan fenthycwyr sydd wedi cael benthyciadau sy'n amodol ar incwm ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl mis Medi 1998.

Mae Rheoliadau 2009 (a diwygiadau dilynol iddynt) wedi eu gwneud fel offerynnau cyfansawdd; sy'n golygu eu bod wedi'u gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru (mewn perthynas â Chymru).

Gwnaed diwygiadau amrywiol yn ddiweddar i Reoliadau 2009 drwy Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 4) 2022. (OS. 2022/1335) (“Rheoliadau Rhif 4”).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o ganlyniad i wallau drafftio yn Rheoliadau Rhif 4.  Nodir fel a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

An error has been identified in the commencement provisions in the 2002 [sic: dylai ddweud “2022”] No.4 regulations (SI 2022/1335) which means aspects of the instrument relating to the prevailing market rate interest rate cap for Plan 2 (post-2012 undergraduate) and Plan 3 (Postgraduate) student loans may not come into force on 16 January as intended.

This error may create uncertainty and lead to further difficulty when the relevant provision needs amending in February 2023.To rectify this, the 2022 No.5 Regulations will correct the commencement provision”.

Y weithdrefn

Negyddol Cyfansawdd

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.

Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.  Gall Senedd y Deyrnas Unedig hefyd ddirymu'r Rheoliadau, yn unol â'r rheolau ar gyfer dirymu sy'n gymwys i Senedd y Deyrnas Unedig.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, felly mae’r Rheoliadau: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y DU.  O ganlyniad, gwnaed y Rheoliadau yn Saesneg yn unig.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

This composite statutory instrument is subject to the negative resolution procedure. As the regulations will be subject to UK Parliamentary scrutiny, it is not considered reasonably practicable for this instrument to be made or laid bilingually.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

13 Ionawr 2023